News

Croeso i’r Gronfa Adnoddau Llythrennedd ar ei newydd wedd

Mae’r safle newydd yn cynnwys yr holl adnoddau dysgu o’n safle blaenorol wedi eu casglu ynghyd yn yr Hwb Adnoddau. Gallwch bori’r adnoddau yn ôl categori neu ddefnyddio’r cyfleuster chwilio newydd. Mae hyn yn cynnwys yr opsiwn i ganfod dim ond yr adnoddau sydd â thrwydded Comin Creu. Byddwn yn parhau i ychwanegu adnoddau newydd wrth i ni eu datblygu, ac rydym yn defnyddio’r blog hwn i dynnu sylw at eitemau newydd a ychwanegwyd.

Yn ogystal â’r Hwb Adnoddau, y safle hwn yw cartref newydd y pumed fersiwn o’r Llawlyfr ar gyfer Addysgu Llythrennedd Gwybodaeth, ac mae’n cynnwys Fframwaith Llythrennedd Gwybodaeth Prifysgol Caerdydd ar gyfer Llyfrgellwyr Pwnc.

Gan fod y safle yn newydd, byddem yn falch iawn o gael adborth gennych drwy’r ffurflen sylwadau.