Rydym yn falch o gyhoeddi lansiad y bedwaredd fersiwn o Lawlyfr Addysgu Llythrennedd Gwybodaeth Prifysgol Caerdydd. Mae’r llawlyfr, sydd wedi’i ddiwygio’n gyfan gwbl ac sydd ar gael ar-lein yn unig bellach, yn ymdrin â chyd-destun strategol llythrennedd digidol a gwybodaeth, yn cyflwyno theorïau a modelau ar gyfer arddulliau dysgu myfyrwyr, ac yn rhoi cyngor ynglŷn â chynllunio eich gwersi ac adnoddau addysgu, asesu myfyrwyr, a mwy.
Mae astudiaethau achos gan ein Llyfrgellwyr Pwnc yma ym Mhrifysgol Caerdydd yn dangos sut rhoddwyd technegau addysgu newydd ar waith, ac yn rhoi cyngor hynod werthfawr i ymarferwyr eraill sy’n ystyried rhoi cynnig arnynt.
Rhoddir enghreifftiau ymarferol o’r deunyddiau addysgu a ddefnyddir yng Nghaerdydd, mewn fformatau y gellir eu lawrlwytho a’u haddasu dan Drwydded Priodoli Comin Creu.
Gyda lwc, bydd y fersiwn newydd o’r llawlyfr o ddefnydd i chi, ac edrychwn ymlaen at glywed eich sylwadau drwy’r blychau sylwadau sydd ar dudalen gyntaf pob pennod yn y llawlyfr.