Dyfynnu a chyfeirio

Adnoddau cyffredinol ynghylch dyfynnu a chyfeirio. Defnyddiwch y dolenni ar y chwith i weld adnoddau am ddulliau cyfeirio penodol. Mae’r adnoddau isod ar gael yn Saesneg yn unig.

I ddefnyddio adnodd unigol yn eich deunyddiau addysgu (yn unol â thelerau’r drwydded) cysylltwch ef yn uniongyrchol drwy’r botwm Rhagolwg neu glicio ar fotwm lawrlwytho’r ffeil. Gall myfyrwyr Prifysgol Caerdydd gael sesiynau tiwtorial a rhai adnoddau eraill hefyd drwy’r adran Sgiliau Astudio ar y fewnrwyd.

Meddalwedd rheoli cyfeiriadau

Resource title and description Type
EndNote: Dechrau arni gydag EndNote
Y cyntaf mewn cyfres o pedwar tiwtorial Xerte sy'n cyflwyno prif nodweddion y fersiwn bwrdd gwaith o EndNote. Mae'r tiwtorial hwn yn esbonio sut i osod EndNote ar eich cyfrifiadur, a chreu eich Llyfrgell EndNote eich hun. Wedi'i gyhoeddi dan drwydded CC gyda chaniatâd Clarivate Analytics.
EndNote: Chwilio cronfeydd data a mewnforio cyfeiriadau
Yr ail mewn cyfres o bedwar tiwtorial Xerte sy'n cyflwyno prif nodweddion fersiwn bwrdd gwaith EndNote. Mae'r tiwtorial hwn yn trin a thrafod sut i fewnforio cyfeiriadau o gronfeydd data llyfryddol ac ychwanegu eich cyfeiriadau eich hun o ffynonellau eraill.
Gweithio gyda ch cyfeiriadau yn EndNote
Y trydydd mewn cyfres o bedwar tiwtorial Xerte sy'n cyflwyno prif nodweddion y fersiwn bwrdd gwaith o EndNote. Mae'r tiwtorial hwn yn esbonio sut i drefnu eich Llyfrgell EndNote a chwilio ynddo, ynghyd â sut i ychwanegu ac anodi ffeiliau PDF. Wedi'i gyhoeddi dan drwydded CC gyda chaniatâd Clarivate Analytics.
EndNote a Microsoft Word
Y pedwerydd mewn cyfres o bedwar tiwtorial Xerte sy'n cyflwyno prif nodweddion y fersiwn bwrdd gwaith o EndNote. Mae'r tiwtorial hwn yn trafod dyfynnu a chyfeirnodi mewn Word, gan ddefnyddio cyfeirnodau yn eich llyfrgell EndNote a newid yr arddull dyfynnu. Wedi'i gyhoeddi dan drwydded CC gyda chaniatâd Clarivate Analytics.
EndNote Ar-lein: Dechrau Arni
Bydd y tiwtorial hwn yn eich tywys drwy'r broses o wneud y canlynol:
  • cofrestru ar gyfer cyfrif EndNote ar-lein
  • mewngofnodi i EndNote Ar-lein
  • gosod ategion fel eich bod yn gallu rhoi cyfeiriadau yn Microsoft Word
  • sefydlu'r arddulliau cyfeirio y bydd eu hangen arnoch.
Wedi'i gyhoeddi dan drwydded Creative Commons gyda chaniatâd Clarivate Analytics.
EndNote Ar-lein: Gweithio gyda’ch llyfrgell
Bydd y tiwtorial hwn yn dangos sut i wneud y canlynol:
  • trefnu eich cyfeiriadau i mewn i grwpiau
  • rhannu grwpiau â defnyddwyr eraill
  • golygu, dileu a dod o hyd i gyfeiriadau lluosog
  • creu llyfryddiaeth unigol.
Wedi'i gyhoeddi dan drwydded Creative Commons gyda chaniatâd Clarivate Analytics.
Tutorial
EndNote Ar-lein: Ychwanegu cyfeiriadau at eich llyfrgell
Bydd y tiwtorial hwn yn dangos sut i wneud y canlynol:
  • ddod o hyd i gronfeydd data llyfryddol priodol
  • chwilio am ac allgludo cyfeiriadau o gronfeydd data amrywiol
  • mewngludo cyfeiriadau i'ch llyfrgell
  • ychwanegu cyfeiriadau â llaw at eich llyfrgell.
Wedi'i gyhoeddi dan drwydded Creative Commons gyda chaniatâd Clarivate Analytics.
EndNote Ar-lein: Defnyddio EndNote Ar-lein gydag Microsoft Word
Bydd y tiwtorial hwn yn dangos sut i wneud y canlynol:
  • gosod Word er mwyn gweithio gydag EndNote ar-lein
  • gosod a dileu dyfyniadau yn eich dogfennau Word
  • golygu'r modd y caiff dyfyniadau eu dangos
  • newid yr arddull gyfeirio.
Wedi'i gyhoeddi dan drwydded Creative Commons gyda chaniatâd Clarivate Analytics.
Tutorial
EndNote Desktop ar gyfer adolygiadau tystiolaeth
Mae'r tiwtorial hwn ar gyfer unrhyw un sy'n defnyddio EndNote i gynorthwyo gyda chynnal adolygiad tystiolaeth (e.e. adolygiad systematig, adolygiad cwmpasu, adolygiad cyflym ac ati). Felly, yn y tiwtorial hwn, rydym yn ymdrin â'r camau canlynol:
  • Mewnforio eich cyfeiriadau i EndNote gyda'r holl ddata gofynnol
  • Gweithio gyda'r cyfeiriadau o fewn eich llyfrgell EndNote at ddibenion cynnal adolygiad
  • Defnyddio EndNote i sgrinio teitlau/crynodebau/testun llawn dwywaith
Wedi'i gyhoeddi dan drwydded Creative Commons gyda chaniatâd Clarivate Analytics.
Zotero Tiwtorial 1: dechrau arni gydag Zotero.
Y cyntaf mewn cyfres o bedwar tiwtorial sy'n cyflwyno prif nodweddion Zotero, y meddalwedd rheoli cyfeirnodau. Bydd y tiwtorial hwn yn mynd â chi drwy'r broses o wneud y canlynol: - gosod Zotero ar gyfrifiadur sy’n rhan o rwydwaith Prifysgol Caerdydd - gosod Zotero ar eich cyfrifiadur eich hun - gosod arddulliau cyfeirnodi Prifysgol Caerdydd - creu eich llyfrgell Zotero eich hun.
Zotero Tiwtorial 2: chwilio cronfeydd data a mewnforio cyfeiriadau.
Yr ail mewn cyfres o bedwar tiwtorial sy'n cyflwyno prif nodweddion Zotero, y meddalwedd rheoli cyfeirnodau. Bydd y tiwtorial hwn yn mynd â chi drwy'r broses o wneud y canlynol: - dod o hyd i gronfeydd data llyfryddol priodol - chwilio am gyfeirnodau a’u hallforio trwy LibrarySearch, Scopus a Google Scholar - mewnforio cyfeirnodau i Zotero - ychwanegu cyfeirnodau â llaw
Zotero Tiwtorial 3: gweithio gyda’ch cyfeiriadau yn Zotero.
Y trydydd mewn cyfres o bedwar tiwtorial sy'n cyflwyno prif nodweddion Zotero, y meddalwedd rheoli cyfeiriadau. Bydd y tiwtorial hwn yn mynd â chi drwy'r broses o wneud y canlynol: - trefnu, chwilio a golygu eich cyfeirnodau - fformatio cyfeirnodau’n awtomatig yn eich dewis arddull (e.e. Harvard Prifysgol Caerdydd) - agor, ychwanegu a dileu dogfennau PDF
Zotero Tutorial 4: Zotero and Microsoft Word
Yr olaf mewn cyfres o bedwar tiwtorial sy'n cyflwyno prif nodweddion Zotero, y meddalwedd rheoli cyfeiriadau. Bydd y tiwtorial hwn yn mynd â chi drwy'r broses o wneud y canlynol: - cyfeirio at gyfeirnodau o fewn dogfennau Word - newid yr arddull gyfeirio - adeiladu llyfryddiaeth awtomataidd o'r testunau y cyfeirir atynt.