Skip to main content

Pecyn Cymorth Datblygu Addysg

Logo for the Education Development Toolkit | Logo ar gyfer y Pecyn Cymorth Datblygu Addysg

Mae Pecyn Cymorth Datblygu Addysg Prifysgol Caerdydd yn cynnig arweiniad i staff ar ddatblygu arferion addysgol rhagorol a phrofiadau dysgu myfyrwyr o ansawdd uchel cyson sy’n cefnogi’r holl fyfyrwyr i gyflawni eu potensial.

Mae’r pecyn cymorth yn seiliedig ar dystiolaeth ac yn llawn awgrymiadau ymarferol, myfyrdodau, llais y myfyrwyr ac astudiaethau achos, gan gwmpasu ystod eang o themâu dysgu ac addysgu pwysig, gan gynnwys themâu trawsbynciol cynhwysiant, cynaliadwyedd a chyflogadwyedd.

Mae’r adnodd yn cyd-fynd â nodau strategol strategaeth ‘Ein Dyfodol, Gyda’n Gilydd’, i’n helpu i wireddu’r uchelgais i fod yn brifysgol sy’n cynnig ‘profiad addysgol rhagorol i fyfyrwyr o bob cefndir a phrofiad, ac ymrwymiad i ddysgu gydol oes hyblyg sy’n creu newid cadarnhaol.’ Fe’i datblygwyd yn 2021, a’i ailddatblygu yn 2026 trwy gydweithio ag academyddion, gwasanaethau proffesiynol ac arbenigwyr addysg ledled Prifysgol Caerdydd.


Dull y Pecyn Cymorth

Mae’r pecyn cymorth yn defnyddio fformat Dylunio Cyffredinol ar gyfer Dysgu gyda thestunau byr, delweddau a fideos, a blychau gyda llais y myfyrwyr, astudiaethau achos o Brifysgol Caerdydd a mannau eraill, a gweithgareddau myfyrio.

Mae’r cysyniadau a’r drafodaeth a gyflwynir yn y pecyn yn ddangosol, ac ni fwriedir iddynt fod yn rhagnodol nac yn gynhwysfawr.

Nid yw’r pecyn wedi’i lunio fel rhywbeth i’w ddarllen ‘o glawr i glawr’! Llywiwch i’r adrannau sydd o’r diddordeb neu’r defnydd mwyaf i chi – fel themâu addysg trawsbynciol Prifysgol Caerdydd (cynhwysiant, cyflogadwyedd a chynaliadwyedd), neu’r egwyddorion addysg allweddol, sy’n dilyn y cylch addysgu: cynllunio ar gyfer dysgu effeithiol, dulliau addysgu (cyflwyno), asesu ac adborth ar gyfer dysgu, a gwerthuso a chydweithio.

Dewislen

Porwch drwy’r themâu trawsbynciol

Porwch drwy’r canllawiau a’r adnoddau i helpu i ymgorffori cynhwysiant, cyflogadwyedd a chynaliadwyedd ar draws dysgu, addysgu a chynllunio cwricwlwm.

 

Cynhwysiant

 

  • Cyflwyniad i Addysg Gynhwysol
  • Meithrin Ymdeimlad o Berthyn
  • Grymuso Myfyrwyr i Gyflawni eu Potensial
  • Datblygu Meddylfryd Cynhwysol

 

 

Cyflogadwyedd

 

  • Fframwaith Dyfodol Myfyrwyr
  • 9 Sgil Llwyddiant
  • Cymeradwyo ac Ail-ddilysu Rhaglenni
  • Gwreiddio Cyflogadwyedd yn y Cwricwlwm

 

 

Cynaliadwyedd

 

  • Beth yw Ystyr Cynaliadwyedd?
  • Pam Cynaliadwyedd?
  • Gwreiddio Cynaliadwyedd mewn Dysgu ac Addysgu
  • Astudiaethau Achos Cynaliadwyedd

 

Porwch drwy’r cylch addysgu

Porwch drwy’r canllawiau a’r adnoddau ar draws y cylch addysgu, o gynllunio dysgu effeithiol a dulliau addysgu, hyd at asesu ac adborth, gwerthuso, ymgysylltu â myfyrwyr a chydweithio.

 

  1. Dylunio ar gyfer Dysgu Effeithiol
  • Dylunio Cynhwysol
  • Cwmpasu Rhaglenni
  • Datblygu Rhaglenni
  • Dylunio Modiwlau a Sesiynau
  • Dylunio Taith Ddysgu Gydlynol, a Dylunio Dysgu ABC

 

 

  1. Dulliau Addysgu
  • Dulliau Addysgu Cynhwysol
  • Dulliau Addysgu ar gyfer Ymgysylltu a Dysgu
  • Dylunio Dysgu ar Waith: Dylunio Dysgu Gwrthdro Effeithiol
  • Dulliau Addysgu Allweddol: Addysgeg, Chwarae a Gemau Empathig

 

 

  1. Asesu ac Adborth ar gyfer Dysgu
  • Llythrennedd a Dulliau Cynhwysol Asesu ac Adborth
  • Dylunio Asesu ac Adborth ar Lefel Rhaglen (gan gynnwys EAT Caerdydd a Gen AI)
  • Dylunio Dysgu ar gyfer Asesu ac Adborth: Paratoi a Chynnal Asesiadau:
  • Dulliau Asesu ac Adborth (gan gynnwys Asesu Dilys a Gwaith Tîm)

 

 

  1. Gwerthuso a Chydweithio
  • Gwerthuso: Mynd ati i Wrando ac Ymateb i Bob Llais
  • Cydweithio a Chyd-adeiladu
  • Ymgysylltu â Myfyrwyr
  • Cydweithio â Staff: Arweinyddiaeth Gynhwysol
  • Dylunio y Tu Hwnt i Ddysgu Cyfunol: Defnyddio’r Chwe Philer

 

↑ Back to top


Fframwaith Safonau Proffesiynol (PSF 2023)

Mae’r cyflwyniad i bob adran a thudalen yn nodi’r cysylltiadau rhwng y cynnwys a dimensiynau Fframwaith Safonau Proffesiynol Advance HE 2023. Mae’r Fframwaith Safonau Proffesiynol yn dwyn tri dimensiwn cysylltiedig ynghyd: Gwerthoedd Proffesiynol, Gwybodaeth Graidd a Meysydd Gweithgaredd. Gallwch ddarllen “Professional Standards Framework for teaching and supporting learning in higher education” 2023 Advance HE yn llawn yma.

Gwerthoedd Proffesiynol

Yn eich cyd-destun chi, dangoswch sut rydych chi:

V1 – yn parchu dysgwyr unigol a grwpiau amrywiol o ddysgwyr

V2 – yn hyrwyddo ymgysylltu mewn dysgu a chyfle cyfartal i bawb gyflawni eu potensial

V3 – yn defnyddio ysgolheictod, neu ymchwil, neu ddysgu proffesiynol, neu ddulliau eraill sy’n seiliedig ar dystiolaeth, fel sail ar gyfer arferion effeithiol

V4 – yn ymateb i’r cyd-destun ehangach y mae addysg uwch yn gweithredu ynddo, gan gydnabod goblygiadau ar gyfer ymarfer

V5 – yn cydweithio ag eraill i wella ymarfer

Gwybodaeth Graidd

Yn eich cyd-destun chi, cymhwyswch wybodaeth am:

K1 – sut mae dysgwyr yn dysgu, yn gyffredinol ac o fewn pynciau penodol

K2 – dulliau addysgu a/neu gefnogi dysgu, sy’n briodol ar gyfer y pynciau a’r lefel astudio

K3 – gwerthuso beirniadol fel sail ar gyfer ymarfer effeithiol

K4 – defnydd priodol o dechnolegau digidol a/neu dechnolegau eraill, ac adnoddau ar gyfer dysgu

K5 – gofynion ar gyfer sicrhau a gwella ansawdd, a’u goblygiadau ar gyfer ymarfer

Meysydd Gweithgarwch:

Yn eich cyd-destun chi, dangoswch eich bod chi:

A1 – yn dylunio ac yn cynllunio gweithgareddau a/neu raglenni dysgu.

A2 – yn addysgu a/neu’n cefnogi dysgu drwy ddulliau ac amgylcheddau priodol

A3 – yn asesu ac yn rhoi adborth ar gyfer dysgu

A4 – yn cefnogi ac yn arwain dysgwyr

A5 – yn gwella ymarfer trwy eich datblygiad proffesiynol parhaus eich hun

Helpwch ni i wella’r Pecyn Cymorth Datblygu Addysg Bydd y Pecyn Cymorth yn parhau i esblygu dros amser.

Gallwch chi helpu i lunio ei ddatblygiad drwy rannu’r hyn sy’n gweithio’n dda, yr hyn y gellid ei wella, a pha bynciau ychwanegol yr hoffech chi iddo eu cynnwys drwy’r Ffurflen Microsoft sydd wedi’i chysylltu isod. Bydd eich adborth yn ein helpu ni i wella’r adnodd i bawb. Rhowch adborth ar y Pecyn Cymorth:

 →