Skip to main content

Datblygu a Defnyddio Meini Prawf Asesu

Cyflwyniad 

Mae meini prawf asesu yn rhan hanfodol o gefnogi asesu teg, tryloyw ac ystyrlon. Maent yn helpu myfyrwyr i ddeall yr hyn a ddisgwylir ganddynt, yn galluogi marcwyr i lunio barn gyson ac yn darparu fframwaith ar gyfer adborth adeiladol. Mae meini prawf pwrpasol eu cynllun yn cyfrannu at lythrennedd asesu ac adborth, gan gefnogi myfyrwyr i werthuso eu gwaith eu hunain, ymgysylltu ag adborth a datblygu i fod yn ddysgwyr annibynnol. 

I bwy mae’r dudalen hon? 

Anelir y dudalen hon at unrhyw un sy’n ymwneud â llunio, cyflwyno, marcio, cymedroli neu adolygu asesiadau ym myd addysg uwch. Mae hyn yn cynnwys arweinwyr rhaglenni a modiwlau, staff addysgu, llunwyr asesiadau, arholwyr allanol a chydweithwyr sy’n ymwneud â sicrhau ansawdd a datblygu addysgol. Mae’n bosibl y bydd hefyd yn ddefnyddiol i staff sy’n adolygu arferion asesu rhaglenni neu’n ystyried cyfleoedd partneriaeth â myfyrwyr wrth lunio asesiadau. 

Mae datblygu meini prawf asesu effeithiol yn cyd-fynd â’r egwyddorion sy’n sail i’r Fframwaith Safonau Proffesiynol (PSF 2024). Yn benodol, mae’n cefnogi addysgwyr yn y broses o lunio profiadau dysgu ac asesu cynhwysol a dilys, gan gyfleu disgwyliadau’n glir yn ogystal â galluogi dysgwyr i gymryd rhan weithredol yn y gwaith o werthuso a gwella eu perfformiad. Mae’r dulliau a amlinellir yn adlewyrchu ymrwymiadau’r Fframwaith i hyrwyddo cyfleoedd dysgu teg, cefnogi llwyddiant dysgwyr trwy ymarfer sy’n seiliedig ar dystiolaeth a meithrin dulliau cydweithredol o ddysgu ac asesu. 

Mae datblygu meini prawf asesu sydd yn bwrpasol eu cynllun hefyd yn cefnogi strategaeth Ein Dyfodol, Gyda’n Gilydd Prifysgol Caerdydd trwy hyrwyddo arferion asesu cynhwysol a thryloyw sy’n canolbwyntio ar y myfyriwr. Gall helpu i ddarparu profiad addysgol rhagorol, meithrin partneriaeth â myfyrwyr a’u synnwyr o berthyn yn ogystal â chefnogi dysgwyr i ddatblygu’r wybodaeth, y sgiliau a’r hunanreoleiddio sydd eu hangen ar gyfer dysgu gydol oes ac effaith gadarnhaol yn eu cymunedau a’u proffesiynau. 

Ar y dudalen hon ceir canllawiau ymarferol ar ddatblygu, adolygu a defnyddio meini prawf asesu. Mae’n ystyried nodweddion meini prawf effeithiol, yn ystyried dulliau o gyd-greu meini prawf â myfyrwyr ac yn tynnu sylw at sut y gellir defnyddio meini prawf i gefnogi arferion marcio a chymedroli cyson mewn rhaglenni a modiwlau. 

Gwerthfawrogir meini prawf asesu da a chlir gan fyfyrwyr ac maent yn gymorth i sicrhau bod asesiadau'n cael eu hystyried yn deg, yn dryloyw ac yn gyson.

Dylai meini prawf asesu wedi'u cynllunio'n dda fod yn:


Cwestiwn (cwestiynau) i ofyn:  

  • Pa mor dda y mae’r meini prawf yn cyd-fynd â deilliannau dysgu’r rhaglen/modiwl? 

 Mae hyn yn golygu:  

Dylai meini prawf cyffredinol yr Ysgol / Rhaglen gyd-fynd â deilliannau dysgu’r rhaglen, tra dylai meini prawf sy’n benodol i dasg gyd-fynd â deilliannau dysgu’r modiwl sy’n cael eu hasesu yn y dasg honno. Mae bod yn gyson wrth gyfateb y deilliannau dysgu i'r meini prawf asesu yn helpu i annog eglurder.  

Cwestiwn (cwestiynau) i ofyn:  

  • Ydy’r meini prawf yn weladwy ac yn fesuradwy?​ 
  • Os bydd y meini prawf yn cael eu ddefnyddio ar gyfer tasgau tebyg ar draws y rhaglen, a oes cysondeb yn y defnydd o iaith, gan hybu gallu myfyrwyr i hunanasesu ar eu cynnydd? 
  • A fydd y meini prawf ar gael i’w drafod ym mriffiau’r aseiniad? 

Mae hyn yn golygu:  

Dylai'r meini prawf fod yn glir ac yn ddealladwy i fyfyrwyr a rhanddeiliaid eraill. Dylech chi roi ystyriaeth i’r lefel o fanylder: bydd angen i fyfyrwyr ddeall yr hyn y mae disgwyl iddyn nhw wneud, tra eu bod ar yr un pryd yn gallu rheoli’r baich gwybyddol.  Dylech chi gyfyngu ar nifer y meini prawf sydd ynghlwm wrth dasg benodol, er mwyn sicrhau bod y rhain yn glir i fyfyrwyr a bod modd i farcwyr eu rheoli. 

Cwestiwn (cwestiynau) i ofyn:  

  • Ydy’r nifer o feini prawf yn hawdd ei drin (mae rhwng 3 a 6 meini prawf yn cyrraedd cydbwysedd da i osgoi bod yn rhy gymhleth ac i sicrhau bod gwahaniaethau ystyrlon rhwng y meini prawf)?  
  • A oes gwahaniaeth amlwg rhwng y meini prawf neu ydyn nhw’n gorgyffwrdd? 
  • Ydy’r meini prawf yn berthnasol i natur y dasg/math ac amrywiaeth yr asesiadau ar draws y rhaglen? 

Mae hyn yn golygu:  

Bydd angen i’r meini prawf fod yn ddigon gwahanol i’w gilydd, i sicrhau, eu bod yn caniatáu dull mwy cyfannol o farcio. Mae angen i fyfyrwyr weld y meini prawf fel arwydd o gyflawniad yn hytrach na mesuriad manwl gywir. 

Cwestiwn (cwestiynau) i ofyn:  

  • Ydy’r meini prawf yn osgoi disgrifyddion goddrychol? (e.e. 'Ardderchog', 'da iawn', 'gweddol')? 
  • Ydy’r meini prawf yn osgoi cyfeirio at ansawdd (e.e. yn rhesymegol, yn effeithiol)? 

Mae hyn yn golygu:  

Lle y bo modd, yn osgoi disgrifyddion cwbl oddrychol, gan fod y rhain yn agored i wahanol ddehongliadau a gallan nhw annog staff i ffitio marciau arfaethedig i feini prawf yn ôl-weithredol. 

Mae hyn yn golygu:  

Dylai’r meini prawf annog myfyrwyr i ddangos creadigrwydd, natur ddigymell a gwreiddioldeb. Yn arbennig o bwysig ar lefelau 6 a 7, gall meini prawf asesu sy'n osgoi'r rhain gyfyngu ar ddysgwyr neu eu hatal. 

Cwestiwn (cwestiynau) i ofyn:  

  • Ydy’r meini prawf yn briodol ar gyfer y lefel astudio?​ 

Mae hyn yn golygu:  

Dylai’r meini prawf gael eu creu trwy ddatblygu'r disgrifydd ar gyfer y marc pasio sylfaenol yn gyntaf. Defnyddiwch hwn i ddangos beth sydd ei angen ar lefel pasio, ond mewn ffordd gadarnhaol.  Ceisiwch osgoi termau fel 'annigonol', 'cyfyngedig', 'anghywir', sydd yn cael eu defnyddio’n fwy nodweddiadol i ddisgrifio gwaith nad yw wedi bodloni'r deilliannau dysgu. 

O safbwynt ymarferol, gall fod yn ddefnyddiol i staff gynllunio meini prawf i ddechrau drwy greu grid gyda chydweithiwr/cydweithwyr.  Gall cymryd rhan mewn trafodaeth helpu rhywun i fynegi syniadau anodd.  Ar ôl drafftio eich set o feini prawf, mae'n ddefnyddiol gofyn y cwestiwn hollbwysig i chi'ch hun: a yw'r meini prawf yn galluogi myfyrwyr i nodi pa mor dda maen nhw wedi gwneud rhywbeth?  Os byddwch yn ei chael hi'n anodd gwneud hyn, efallai y bydd angen rhywfaint o waith pellach ar y meini prawf. 

Sut y gallai hyn weithio:

  • myfyrwyr yn darllen asesiadau sampl ac yn eu defnyddio i benderfynu ar feini prawf marcio
  • pwyllgor o fyfyrwyr yn datblygu meini prawf marcio, a fyddai wedyn yn cael eu cymharu â fersiwn staff, ac fe gaiff fersiwn derfynol ei thrafod
  • meini prawf marcio’r myfyrwyr yn cael eu defnyddio ar gyfer asesu gan gymheiriaid a hunanasesu

Darllenwch yma am brosiect ym Mhrifysgol Cumbria lle’r oedd staff a myfyrwyr yn cyd-greu meini prawf asesu, gan ddod i’r casgliad bod y fersiwn staff yn rhy gymhleth, gan ddefnyddio disgwrs academaidd, a fersiwn y myfyrwyr yn rhy syml, a bod angen gwneud y meini prawf yn hygyrch i fyfyrwyr - gan ystyried y cwestiwn, 'Ar gyfer pwy mae'r [meini prawf] hyn wedi'u creu?'

Mae cael meini prawf clir da yn elfen bwysig o'r cymorth i farcio.  Fodd bynnag, mae yr un mor bwysig ystyried sut y caiff y rhain eu defnyddio; mae hyn yn allweddol i farcio a chymedroli teg a chyson.  Cyflawnir hyn drwy:

Cyn marcio

  • Sicrhau bod pob marciwr yn rhannu dealltwriaeth o safonau academaidd, trwy gynnal ymarferion cymedroli cymdeithasol a/neu drwy brofi'r meini prawf yn erbyn sampl gychwynnol;
  • Sicrhau bod myfyrwyr yn gwybod lle gellir cyrchu’r meini prawf, a’u hatgoffa o rôl barn academaidd wrth farcio.

Yn ystod y marcio cychwynnol

  • Adolygu'r marciau yr ydych yn bwriadu eu dyfarnu i'r ychydig bapurau cyntaf a farciwyd er mwyn sicrhau bod eich barn yn gyson â'r meini prawf;
  • Pan fyddwch hanner ffordd drwy'r marcio, drwy ddychwelyd at sampl fach ac adolygu'r rhain, sicrhau bod y marcio'n parhau i fod yn gyson â'r meini prawf ac nad yw barnau wedi newid yn ystod y broses farcio;
  • (Wrth farcio fel tîm) adolygu'r canlyniadau a gafwyd ar unrhyw bapurau 'rheoli', naill ai i alluogi cymharu gwahanol farcwyr a/neu i 'ail-raddnodi' dealltwriaeth;
  • Datblygu sylwadau adborth sy'n ymwneud â meini prawf penodol, er mwyn helpu myfyrwyr i ddefnyddio adborth yn well i lwyddo mewn meysydd penodol. (Cofiwch fodd bynnag, na chaiff adborth ei ddarparu ac na ddylid ei ddarparu fel sylwadau sy’n ceisio esbonio a/neu gyfiawnhau’r marc yn unig.)

Ar ôl marcio cychwynnol

  • Cwblhau'r adrannau perthnasol yn y profforma safoni ac yna ei darparu, ynghyd â mynediad i'r sgriptiau sy'n cael eu safoni, i'r safonwr(wyr);
  • Cael y safonwr/cymedrolwyr wedyn i lenwi’r ffurflen ac yna trefnu i gyfarfod a thrafod y canlyniadau o hyn gyda’r marciwr cyntaf, (mae llawer o astudiaethau ymchwil wedi dangos bod bodloni safonau a’u trafod yn agored ac yn onest yn allweddol i ddatblygu’r ddealltwriaeth gyffredin o safonau);
  • Sicrhau bod y ffurflen wedi'i chwblhau ar gael i arholwyr allanol;
  • Bod Byrddau Arholi yn adolygu, a lle bo’n berthnasol, yn diweddaru eu meini prawf yn flynyddol i sicrhau eu bod yn cyfleu disgwyliadau yn gywir, ac yn parhau i fod yn gyson â disgwyliadau’r sector;

[N.B.  Mae llawer o'r ymchwil i gymedroli wedi amlygu'r angen i gynnal cyfarfodydd a thrafodaethau rhwng marcwyr mewn ffordd agored, barchus a thryloyw.  Mae ymchwil wedi dangos ymhellach y gall 'marcio dall dwbl' arwain at amddiffyniad ar ran ail farcwyr; marcwyr yn osgoi marciau uchel iawn neu isel a allai awgrymu marcio nad yw'n cyd-fynd â'r meini prawf.  Fodd bynnag, mae marciau isel iawn neu uchel iawn hefyd yn cael eu hosgoi gan ail farcwyr sydd eisoes yn gwybod y marc cyntaf; bod eu dyfarniad wedi cael ei ddylanwadu gan y dyfarniad gwreiddiol.]

Awgrym Cynwysoldeb

Mae meithrin amgylchedd lle mae myfyrwyr yn teimlo eu bod wedi'u grymuso'n ddigonol i gyfrannu yn hollbwysig wrth hyrwyddo dysgu cynhwysol.

Awgrym cynaliadwyedd

Gall cynnwys myfyrwyr mewn cyd-adeiladu wella strategaethau dysgu hunan-reoledig sy'n darparu'r sylfaen ar gyfer datblygu gwybodaeth gynaliadwy a dysgu gydol oes.