Skip to main content

Cyflogadwyedd

Themâu Datblygiadol

6 Gorffennaf 2026

Grwpio'r Sgiliau

Mae’r 9 Sgil Llwyddiant yn parhau wrth wraidd ein hagwedd at ddatblygu myfyrwyr, ond mae eu grwpio’n dair thema ddatblygiadol ehangach yn helpu i adrodd stori gliriach a mwy cysylltiedig am y galluoedd y bydd eu hangen ar y myfyrwyr yn y dyfodol. Mae’r themâu hyn yn adlewyrchu iaith a chyfeiriad strategaeth Ein dyfodol, gyda’n gilydd Prifysgol Caerdydd, gan gysoni’r model 9 Sgil yn agosach â’r dyheadau a rennir ar gyfer graddedigion, addysg a phrofiad ehangach y myfyrwyr.

Mae’r themâu datblygiadol yn ffordd ymarferol i gydweithwyr ymgorffori datblygu sgiliau ar draws cwricwla, cynlluniau rhaglen a gweithgareddau gwella. Gydag ymchwil, ymgynghori ac adborth staff a myfyrwyr yn eu llywio, maent yn helpu i wneud y model 9 Sgil yn haws ei drin ac yn cefnogi sgyrsiau ystyrlon am ddysgu, twf personol a deilliannau graddedigion. Yn hytrach na newid y sgiliau eu hunain, mae’r themâu’n helpu i’w dwyn ynghyd mewn ffordd hygyrch, sy’n edrych i’r dyfodol ac sy’n berthnasol i anghenion esblygol ein myfyrwyr, cymunedau a chymdeithas.

Alexander, Myfyriwr israddedig y Biowyddorau
Mae'r model Sgiliau Llwyddiant yn hanfodol ar gyfer cefnogi graddedigion y dyfodol yn fyd-eang.
Alexander, Myfyriwr israddedig y Biowyddorau

 

Sut mae’r grwpiau’n ffurfio cylch allanol y cynllun.

D.S. Mae’r cynllun yn dal i fod ar gam cynnar. Gyda’r cam datblygu nesaf dylai fod gennym fodel rhyngweithiol fydd yn dangos y sgiliau ac ymddygiadau sampl trwy ‘glicio a dangos’ neu ‘hofran a naidlen’.

Y Themâu:

Creu amgylchedd dysgu sy'n galluogi myfyrwyr i ddatblygu gwybodaeth a dealltwriaeth, cynhyrchu syniadau, addasu eu meddwl a'u hymddygiad, a thyfu'n ddeallusol ac yn bersonol.

Ymaddasu:

    • bod yn hyblyg, yn ystwyth a chanfod cyfleoedd mewn newid, gan ymateb yn adeiladol i heriau gyda deallusrwydd emosiynol a gwydnwch
    • myfyrio ar ddysgu a phrofiadau i adnabod eich cryfderau eich hun, eich anghenion hunanddatblygu a gosod nodau
    • rheoli amser yn effeithiol a mynd ati i gefnogi lles personol

Cydweithio: 

    • gweithio'n effeithiol gydag eraill gan barchu a dysgu gan safbwyntiau gwahanol
    • cyfrannu ac arwain mewn grwpiau gan feithrin cydweithredu a rheoli gwrthdaro
    • manteisio ar gyfleoedd i feithrin rhwydweithiau proffesiynol a pherthnasoedd cadarnhaol

Cyfathrebu: 

    • ymarfer gwrando gweithredol
    • cyfleu ystyr a negeseuon yn effeithiol gan ddefnyddio tystiolaeth a dulliau priodol megis siarad yn gyhoeddus ac adrodd straeon i ymgysylltu ag eraill
    • cyflwyno syniadau'n hyderus

Darparu amgylchedd cefnogol a chynhwysol sy'n galluogi myfyrwyr i gyfathrebu'n effeithiol, meithrin perthnasoedd, cydweithio ag eraill, a datblygu ymdeimlad o berthyn trwy barch, empathi a dealltwriaeth a rennir.

Creadigol:

    • datblygu syniadau a dulliau gwreiddiol drwy chwilfrydedd, dychymyg ac arloesedd
    • archwilio posibiliadau, arbrofi â ffyrdd sefydledig o weithio a dysgu o heriau
    • defnyddio creadigrwydd, cynllunio, dyfeisgarwch neu ymarfer i lunio datrysiadau effeithiol

Meddwl yn Feirniadol: 

    • datblygu meddwl annibynnol drwy gwestiynu rhagdybiaethau ac arferion
    • dadansoddi amrywiaeth o wybodaeth, data a senarios, gan gymhwyso rhesymu rhesymegol a datrys problemau i wneud penderfyniadau gwybodus
    • defnyddio ymchwil a thystiolaeth yn feirniadol gan gadw'n effro i ragfarn

Digidol: 

    • datblygu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o offer a thechnolegau digidol, gan addasu i ddatblygiadau technolegol
    • cymhwyso sgiliau digidol i wella ffyrdd o weithio, prosesu gwybodaeth yn effeithiol, a gwneud gwahaniaeth cadarnhaol
    • ystyried goblygiadau moesegol ymarfer digidol, gan ymgysylltu'n ddiogel ac yn gyfrifol â thechnolegau sy'n dod i'r amlwg

Creu cyfleoedd sy'n galluogi myfyrwyr i gymhwyso sgiliau a gwybodaeth yn hyderus, defnyddio offer a thechnolegau digidol i sicrhau newid, gweithredu'n broffesiynol ac yn foesegol, a gwneud penderfyniadau gwybodus i gyflawni effaith gynaliadwy.

Canolbwyntio ar y dyfodol: 

    • ystyried effaith hirdymor gweithredoedd a phenderfyniadau
    • gweithredu gyda chyfrifoldeb cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd
    • gwneud dewisiadau gwybodus sy'n cyfrannu at ddyfodol cynaliadwy a chadarnhaol

Cynhwysol: 

    • parchu, gwerthfawrogi a dysgu gan wahanol ddiwylliannau, cymunedau amrywiol a dangos eich bod yn agored i safbwyntiau byd-eang a mentrau lleol
    • cymhwyso barn foesegol i asesu effaith gweithredoedd
    • cofleidio'r Gymraeg, ynghyd â diwylliant a chyd-destun Cymru

Proffesiynol: 

    • dangos chwilfrydedd ac ymwybyddiaeth fasnachol, gan gyfleu menter a chymhelliant i ddysgu a datblygu
    • ymddwyn yn onest, yn ddibynadwy ac yn atebol
    • cymhwyso dysgu a gwybodaeth benodol i'r ddisgyblaeth yn hyderus ac yn effeithiol i ychwanegu gwerth mewn amgylcheddau proffesiynol

Ffilm: Sut ydyn ni’n cymhwyso’r 9 sgil?

Dewch i wylio ffilm sy’n bwrw golwg ar y ffordd y gellir cymhwyso’r naw sgil i’r gwaith o ddatblygu’r cwricwlwm ac yn ystyried y ffordd y maen nhw’n cyd-fynd ag Adroddiad Dyfodol Swyddi 2025 Fforwm Economaidd y Byd, yn ogystal â safonau Advance HE a’r Asiantaeth Sicrhau Ansawdd:

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau ynghylch dylunio, cysylltwch â Gemma Peterson: petersong@caerdydd.ac.uk


Yn ôl i’r Brif Dudalen