Skip to main content

Uncategorized

Effaith ar draws y Sefydliad

7 Gorffennaf 2026

Integreiddio'r 9 sgil

Mae Prifysgol Caerdydd yn ymgymryd â dwy raglen waith fawr dan arweiniad y Rhag Is-Ganghellor Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr: Sgiliau Llwyddiant a Cwricwlwm 2035. Gyda’i gilydd, mae’r mentrau hyn wedi’u cynllunio i sicrhau bod myfyrwyr yn datblygu’r sgiliau, y profiadau a’r talentau sydd eu hangen i ffynnu mewn byd sy’n newid yn gyflym. Fel rhan o’r gwaith, adolygwyd ac ail-ddychmygwyd chwe Rhinwedd Graddedigion y Brifysgol fel 9 Sgil Llwyddiant – model sy’n edrych i’r dyfodol ac sy’n adlewyrchu anghenion myfyrwyr, cyflogwyr a chymdeithas.

Mae’r 9 Sgil Llwyddiant yn sylfaen ar gyfer cynllunio cwricwlwm, gwella a phrofiad ehangach y myfyrwyr. Maent yn cefnogi dyheadau’r Cwricwlwm Creu Newid drwy helpu myfyrwyr i ddatblygu’r galluoedd a geir drwy gyflogadwyedd, dysgu ar sail profiad, cyfleoedd byd-eang, menter, ymgysylltu dinesig a gweithgareddau gwerth cyhoeddus. Drwy gynnig dull sy’n cysylltu dysgu, datblygiad personol a llwyddiant yn y dyfodol, maent yn fwy na set o sgiliau graddedigion, ac yn sicrhau bod graddedigion Caerdydd yn barod ar gyfer y gweithle ac yn gallu cael effaith gadarnhaol yn eu cymunedau a’u proffesiynau.

Joshua Tandy, Llywydd Undeb y Myfyrwyr
Mae adnewyddu'r rhinweddau graddedigion yn dangos bod y brifysgol yn blaenoriaethu cyflogadwyedd a datblygiad personol. Mae hyn yn dangos i'r holl staff, myfyrwyr a chyflogwyr mai graddedigion Prifysgol Caerdydd yw'r hyn sydd ei angen ar y byd.
Joshua Tandy, Llywydd Undeb y Myfyrwyr

 

Yn ôl i’r Brif Dudalen