Skip to main content

9 Sgiliau Llwyddiant

Newid o Rinweddau Graddedigion i Sgiliau Llwyddiant 

Dyma’r trawsgrifiad fideo.

Cyflwyniad: 

Crëwyd y 9 Sgil Llwyddiant i gyd-fynd â strategaeth Ein Dyfodol, Gyda’n Gilydd Prifysgol Caerdydd, a chefnogi’r ymrwymiad i ‘gynnig dysgu gydol oes hyblyg a phwrpasol sy’n rhoi dewis, grym a llais i fyfyrwyr, ac yn rhoi gwybodaeth a sgiliau iddynt sy’n addas i’r dyfodol y gallant eu defnyddio yn y byd go iawn er mwyn cyflawni eu huchelgais’. Drwy’r addysgu, y dysgu a’r profiad myfyrwyr ehangach, bydd yn sicrhau bod ein myfyrwyr yn datblygu ‘yn wydn, yn feirniadol, ac yn gallu datrys problemau, gan roi newid ar waith a gwybod sut i gydweithio mewn byd ansicr, rhyngddisgyblaethol, traws-sector, sydd wedi’i ddigideiddio’. 

Ryan Whitlock, Enterprise Mobility
Roedd cymryd rhan yng ngrwpiau ffocws y cyflogwyr ar gyfer fframwaith 9 Sgil Llwyddiant Prifysgol Caerdydd yn gyfle gwych i gydweithio ar lunio talent graddedigion y dyfodol. Mae'r naw sgil craidd hyn yn adlewyrchu'n berffaith yr hyn yr ydym yn chwilio amdano yn Enterprise Mobility—yn enwedig y pwyslais ar fod yn barod i ymaddasu a bod yn gynhwysol a phroffesiynol mewn amgylchedd sy'n newid yn barhaus. Mae mor braf gweld fframwaith prifysgol sydd wedi'i alinio mor agos ac mewn modd ymarferol ag anghenion cyflogwyr modern.
Ryan Whitlock, Enterprise Mobility

Cafodd y sgiliau: 

  • Eu datblygu gan y Gweithgor Adolygu Rhinweddau Graddedigion, dan gadeiryddiaeth y Rhag Is-Ganghellor, Addysg a Phrofiad Myfyrwyr, yn dilyn adolygiadau llenyddiaeth helaeth, meincnodi mewnol ac allanol, ymgynghori â gwasanaethau academaidd a phroffesiynol, cyfranogiad eang gan fyfyrwyr ac ymgysylltu â chyflogwyr;  
  • Eu mireinio drwy ymgynghori ac adborth gyda Grŵp Gorchwyl a Gorffen Adolygu Rhinweddau Graddedigion a phrofi gyda myfyrwyr ar y campws;  
  • Eu cefnogi a’u cymeradwyo gan y Pwyllgor Addysg a Phrofiad Myfyrwyr ym mis Mai 2026 i gymryd lle’r 6 Rhinwedd Graddedigion 

Cyflwynir y 9 Sgil er Llwyddiant yn ystod blwyddyn academaidd 2026-27 i staff sy’n ymwneud â dylunio a chymeradwyo rhaglenni, gan eu galluogi i fabwysiadu’r iaith sgiliau newydd cyn y broses weithredu lawn. Byddan nhw’n cael eu cyflwyno i’r holl staff a myfyrwyr o fis Medi 2027 ymlaen.


Beth:9 Sgil Llwyddiant 

 

Y 9 Sgil a Galluoedd Enghreifftiol:

Rydym ni’n defnyddio’r teitl ‘Galluoedd Enghreifftiol’ i gyflwyno ac egluro meini prawf pob sgil. Fe welwch y galluoedd sampl wedi’u rhestru o dan bob un o’r 9 sgil.

  • bod yn hyblyg, yn ystwyth a chanfod cyfleoedd mewn newid, gan ymateb yn adeiladol i heriau gyda deallusrwydd emosiynol a gwydnwch
  • myfyrio ar ddysgu a phrofiadau i adnabod eich cryfderau eich hun, eich anghenion hunanddatblygu a gosod nodau
  • rheoli amser yn effeithiol a mynd ati i gefnogi lles personol
  • gweithio'n effeithiol gydag eraill gan barchu a dysgu gan safbwyntiau gwahanol
  • cyfrannu ac arwain mewn grwpiau gan feithrin cydweithredu a rheoli gwrthdaro
  • manteisio ar gyfleoedd i feithrin rhwydweithiau proffesiynol a pherthnasoedd cadarnhaol
  • ymarfer gwrando gweithredol
  • cyfleu ystyr a negeseuon yn effeithiol gan ddefnyddio tystiolaeth a dulliau priodol megis siarad yn gyhoeddus ac adrodd straeon i ymgysylltu ag eraill
  • cyflwyno syniadau'n hyderus
  • datblygu syniadau a dulliau gwreiddiol drwy chwilfrydedd, dychymyg ac arloesedd
  • archwilio posibiliadau, arbrofi â ffyrdd sefydledig o weithio a dysgu o heriau
  • defnyddio creadigrwydd, cynllunio, dyfeisgarwch neu ymarfer i lunio datrysiadau effeithiol
  • datblygu meddwl annibynnol drwy gwestiynu rhagdybiaethau ac arferion
  • dadansoddi amrywiaeth o wybodaeth, data a senarios, gan gymhwyso rhesymu rhesymegol a datrys problemau i wneud penderfyniadau gwybodus.
  • defnyddio ymchwil a thystiolaeth yn feirniadol gan gadw'n effro i ragfarn
  • datblygu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o offer a thechnolegau digidol, gan addasu i ddatblygiadau technolegol
  • cymhwyso sgiliau digidol i wella ffyrdd o weithio, prosesu gwybodaeth yn effeithiol, a gwneud gwahaniaeth cadarnhaol
  • ystyried goblygiadau moesegol ymarfer digidol, gan ymgysylltu'n ddiogel ac yn gyfrifol â thechnolegau sy'n dod i'r amlwg
  • parchu, gwerthfawrogi a dysgu gan wahanol ddiwylliannau, cymunedau amrywiol a dangos eich bod yn agored i safbwyntiau byd-eang a mentrau lleol
  • cymhwyso barn foesegol i asesu effaith gweithredoedd
  • cofleidio'r Gymraeg, ynghyd â diwylliant a chyd-destun Cymru
  • ystyried effaith hirdymor gweithredoedd a phenderfyniadau
  • gweithredu gyda chyfrifoldeb cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd
  • gwneud dewisiadau gwybodus sy'n cyfrannu at ddyfodol cynaliadwy a chadarnhaol
  • dangos chwilfrydedd ac ymwybyddiaeth fasnachol, gan gyfleu menter a chymhelliant i ddysgu a datblygu
  • ymddwyn yn onest, yn ddibynadwy ac yn atebol
  • cymhwyso dysgu a gwybodaeth benodol i'r ddisgyblaeth yn hyderus ac yn effeithiol i ychwanegu gwerth mewn amgylcheddau proffesiynol

Gallwch lawrlwytho dogfen Word o’r galluoedd hyn yma.


Ceir rhagor o wybodaeth yn yr adrannau canlynol:

Cymerwch olwg ar y broses ddylunio sydd wedi dylanwadu ar hunaniaeth weledol Sgiliau Llwyddiant.

3 theitl, 3 thema. Edrychwch sut mae 'cylch allanol' y model 9 sgil yn grwpio'r sgiliau.

Darllenwch sut mae'r 9 Sgil yn bwydo i brosiectau mawr eraill ar draws y brifysgol.


Pam: Y rhesymeg dros newid:

Ar draws addysg uwch, llywodraeth, cyrff proffesiynol a chyflogwyr, gwelwyd symudiad amlwg at iaith sgiliau fel ffordd o ddisgrifio’r galluoedd sydd angen i fyfyrwyr eu datblygu i lwyddo mewn byd sy’n gynyddol gymhleth ac sy’n newid yn gyflym. Mae sefydliadau fel Swyddfa’r Myfyrwyr (OfS), Medr, QAA, Sefydliad Cyflogwyr Myfyrwyr (ISE) a Fforwm Economaidd y Byd yn pwysleisio’n gynyddol bwysigrwydd datblygu sgiliau, cyflogadwyedd a gallu’r gweithlu’r dyfodol, sy’n adlewyrchu ffocws cynyddol ar yr hyn y gall dysgwyr ei wneud, ei gymhwyso a’i ddangos ochr yn ochr â’r hyn maent yn ei wybod. Mae esblygiad tacsonomeg sgiliau a dulliau’n seiliedig ar sgiliau yn rhoi rhagor o bwyslais ar bwysigrwydd cynyddol iaith gyffredin ar gyfer disgrifio, datblygu a dangos tystiolaeth o allu.

Er bod gwybodaeth academaidd ac arbenigedd disgyblaethol yn parhau’n ganolog i’r profiad prifysgol, ceir cydnabyddiaeth gynyddol bod llwyddiant ar ôl graddio’n dibynnu ar gyfuniad o gymwysterau, sgiliau, ymddygiadau a phrofiadau. Mae cyflogwyr yn parhau i werthfawrogi gwybodaeth bynciol, ond yn pwysleisio’n gyson bwysigrwydd galluoedd ehangach megis cyfathrebu, cydweithio, hyder digidol, datrys problemau, y gallu i addasu ac ymwybyddiaeth broffesiynol. Yn y cyd-destun hwn, ni chaiff datblygu sgiliau ei ystyried bellach yn un o fanteision ychwanegol addysg uwch, ond yn elfen graidd wrth baratoi graddedigion ar gyfer cyflogaeth, astudiaethau pellach a dysgu gydol oes.

Hannah, Myfyriwr Israddedig y Gyfraith a Gwleidyddiaeth
Mae'r Sgiliau Llwyddiant newydd wedi'u dadansoddi'n fanwl i wneud yn siŵr y gallant fod yn berthnasol ac yn gymwys i bob ysgol yn y brifysgol.
Hannah, Myfyriwr Israddedig y Gyfraith a Gwleidyddiaeth

Mae disgwyliadau myfyrwyr hefyd yn newid. Wrth i fyfyrwyr fynd ati’n gynyddol i ystyried gwerth a chanlyniadau eu haddysg prifysgol, rhoddir mwy o bwyslais ar gyflogadwyedd, parodrwydd ar gyfer gyrfa a’r gallu i drosi eu dysgu’n gyfleoedd yn y dyfodol. Mae gan lawer o fyfyrwyr lawn cymaint o ddiddordeb yn y sgiliau, profiadau a chyfleoedd fydd ar gael iddynt ag sydd ganddynt yng nghynnwys eu rhaglen gradd. Mae ffocws cliriach ar sgiliau’n helpu myfyrwyr i adnabod, mynegi a dangos tystiolaeth o’u datblygiad drwy gydol eu cyfnod ym Mhrifysgol Caerdydd.

Atgyfnerthwyd y duedd hon yn yr ymgynghoriad a gynhaliwyd yn rhan o’r Adolygiad o Rinweddau Graddedigion. Roedd myfyrwyr, cyflogwyr a staff yn gyson yn ymateb yn fwy cadarnhaol i iaith sgiliau nag i rinweddau graddedigion. I fyfyrwyr, roedd y cysyniad yn haws ei ddeall, yn gwneud synnwyr ac yn fwy perthnasol i’w dyheadau ar gyfer y dyfodol, ac i gyflogwyr, roedd yn adlewyrchu’n well y galluoedd maent yn eu dymuno mewn graddedigion sy’n dod i mewn i’r gweithle. Felly, mae’r symudiad at y 9 Sgil Llwyddiant nid yn unig yn golygu newid o ran iaith, ond mae’n ffordd i gefnogi a chydnabod datblygiad myfyrwyr sy’n fwy hygyrch, yn fwy deniadol ac sy’n edrych allan.

Joshua Tandy, Llywydd Undeb y Myfyrwyr
Ymgynghorwyd â staff, myfyrwyr a chyflogwyr yn ystod y broses o adnewyddu rhinweddau graddedigion. Daw â blaenoriaethau’r 3 grŵp ynghyd, sy’n allweddol i sicrhau addysg berthnasol, fyfyriol a phwrpasol.
Joshua Tandy, Llywydd Undeb y Myfyrwyr

 


Sut: Gwreiddio’r 9 Sgil ym mhrofiad y myfyriwr

Bydd y 9 Sgil Llwyddiant yn cael eu hymgorffori ar draws profiad cwricwlaidd, cyd-gwricwlaidd ac allgyrsiol y myfyrwyr, gydag amrywiaeth o adnoddau, gweithgareddau a chyfleoedd datblygu cefnogol. Mae’r gwaith yn rhan o’r prosiect Sgiliau Llwyddiant ehangach, gyda Cwricwlwm 2035 yn arwain ar integreiddio’r cwricwlwm a Dyfodol Myfyrwyr yn cydlynu’r gweithrediad a’r gefnogaeth.

Megan Torvell, Darlithydd ac Arweinydd Cyflogadwyedd ar gyfer BSc Ffarmacoleg Feddygol
Mae'r 9 Sgil Llwyddiant newydd yn cynnig fframwaith clir ac ymarferol sy'n helpu myfyrwyr i adnabod a myfyrio ar y sgiliau maent yn eu datblygu drwy gydol eu gradd. Maent yn hefyd yn rhoi iaith gyffredin i academyddion ar gyfer ymgorffori'r sgiliau hynny'n fwy bwriadol ar draws rhaglenni, gan sicrhau bod gan fyfyrwyr gyfleoedd i ddatblygu'r galluoedd a fydd yn eu cefnogi yn ystod a’r tu hwnt i'r brifysgol.
Megan Torvell, Darlithydd ac Arweinydd Cyflogadwyedd ar gyfer BSc Ffarmacoleg Feddygol

 

Cyflwynir y 9 Sgil Llwyddiant drwy’r broses gymeradwyo ac ail-ddilysu rhaglenni yn ystod 2026–27, cyn cael eu cyflwyno’n llawn ar draws y Brifysgol ddechrau blwyddyn academaidd 2027–28.


Manylion cyswllt i gael rhagor o wybodaeth:

Arweinydd Busnes: Jon Forbes, ForbesJ3@caerdydd.ac.uk.

Os hoffech gael rhagor o gymorth neu gyfle i drafod y fframwaith 9 sgil, cwblhewch y 3 chwestiwn ar y Ffurflen MS .